Dai Lloyd ydw i, a dwi’n gweithio fel trefnydd adloniant yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, mae gen i label recordio (Recordiau Dockrad), a chwmni cyhoeddu cerddoriaeth (um..Cyhoeddiadau Dockrad), a dwi wedi ceisio canu mewn amryw o fandiau dros y pymtheg ‘mlynedd dwetha’ - er wedi dweud hynny, ges i 7% mewn arholiad cerddoriaeth yn Ysgol Penweddig unwaith, felly efallai dwi ddim cymaint â hynny o arbenigwr wedi’r cyfan! ‘Ta beth – dyna ddigon amdana i – lle mae’r newyddion cerddorol, Dai??
Dyma fe – y band ifainc o Sheffield, yr “Artic Monkeys” yn gwerthu dros 100,000 o’u albym newydd yn y diwrnod cynta’ yr aeth ar werth. Ydyn nhw wedi neud hyn gyda cyllideb enfawr gan gwmni recordio? Naddo – maent wedi hybu eu hunain ar y wê ers amser mawr, yn rhoi traciau i ffwrdd am ddim, ac y creu dilynwyr i’r band oedd yn adnabod y cerddoriaeth bell cyn iddi gael ei rhyddhau. Dau rhif un yn y siartiau senglau wedi hynny, a’u albym cynta’ yn gwerthu dros mwy na 360,000 mewn wythnos - yn torri pob record – a llawer o’r gwerthiant yn dod o lawrlwythiadau syth i gyfrifiaduron y cyhoedd - sydd bellach yn cael ei gyfri i’r siartiau.
Gallwn felly weld faint mor bwysig yw’r wê i’r byd cerddoriaeth yn 2006. Pan dechreuodd pobl rhannu ffeiliau gerddorol ar safleoedd wê fel Napster nôl yn y 90au, collwyd cyfle enfawr gan y BPI – British Phonographic Industry, pan gwrthodwyd cynnig gan Napster i werthu’r cerddoriaeth arlein dros labeli Prydeinig. Agwedd y BPI oedd eu bod eisiau cadw’r arian iddyn nhw eu hunain, ac yn y pen draw, maent wedi colli allan, achos erbyn hyn, ‘dyw lot o bobl ifainc ddim yn sylweddoli bod lawrlwytho cerddoriaeth am ddim o’r wê yn anghyfreithlon, a’r BPI a’r labeli recordio mawr wedi colli miliynau ar filynau fel canlyniad,
Yng Nghymru, mae’r we yn gallu bod yn ffordd i hyrwyddo’ch deunydd cerddorol hefyd mewn ffordd rhad iawn – digwyddodd yr un math o beth gyda’r GLC – rhyddhau traciau ar y wê, a chreu cefnogaeth leol, cael eich arwyddo i label enfawr ac yna ymddangos ar “Big Brother”! Ie, wel, ‘sneb yn berffaith!
Mae safleoedd fel unarddeg.com yn cynnig lawrlwythiadau Cymraeg am ddim i’r cyhoedd, a’r amryw o safleoedd radio Cymraeg ar y wê yn cynnig ffordd i glywed deunydd na fyddwch efallai’n gallu clywed ar Radio Cymru, neu’ch sioe Gymraeg leol. Gallwch hefyd brynu crynoddisgiau Cymraeg arlein wrth gwrs o safleoedd fel sebon.co.uk, neu safleoedd y cwmnïau recordio, a chlywed sioeau radio Cymraeg y BBC ar y wê – bell wedi iddynt fod ar yr awyr – handi iawn os ti’n byw yn Turkmenistan.
Achos dyna ydi’r wê – cymuned arlein, ac mae fwyfwy o bobl ifainc yn troi ati I hybu eu hunain yn y byd cerddorol. Ewch draw i myspace.com – mae bron pob un band dan haul yno - gan gynnwys eich ffefrynnau Cymraeg.
Dai Lloyd runs Dockrad Records and works as joint promotions manager at Clwb Ifor Bach